Y DREF WERDD - BLAENAU FFESTINIOG

(Mae'r gwybodaeth yma'n ddwyieithiog. This information is bilingual)

Ein prif amcan

Galluogi cymuned Bro Ffestiniog ddefnyddio’r amgylchedd fel adnodd, mewn modd sydd yn strategol ac integredig, i ddatblygu dyfodol cynaliadwy a hydwyth i ni’n hunain, a thrwy hyny, gwarchod yr adnodd hyny, lleihau ein ol troed ecolegol, a chyfrannu tuag at gynaliadwyedd a hydwythder byd eang. Byddwn yn gwneud hyn trwy weithio tuag at fod yn 'Dref Werdd' ond gyda'r canllawiau ar gyfer hynny wedi eu gosod gan y gymuned ei hun.

Our main aim

Enable the community of Bro Ffestiniog to use the environment in a strategic manner, as a resource to develop a sustainable and resilient future for ourselves and, in so doing, to look after that resource, to reduce our ecological footprint, and to contribute to sustainability and resilience worldwide. We will do this by working towards being a 'Green Town' but with the benchmark for that set by the community itself.

Ein hamcanion ar gyfer y 5 mlynedd nesaf

  • Creu siarter Y Dref Werdd gyda'r Cyngor Tref, a fydd yn sail i ddatblygu cynllun ‘Energy Descent’ ar gyfer y tref.
  • Adnewyddu 6 o brif adeiladau cymunedol y dref mewn modd sy'n lleihau eu hol troed ecolegol
  • Sefydlu Cwmni Ynni Cymunedol a fydd yn datblygu ffynonellau adnewyddol o ynni i’r dref ac i werthu i’r grid.
  • Datblygu a gweithredu rhaglen Eco-Timau.
  • Datblygu a gweithredu cynllun datblygu sgiliau traddodiadol a sgiliau cynaliadwy newydd.
  • Datblygu safle(oedd) rhandiroedd gyda lleiniau o dir ar gyfer unigolion a hefyd ar gyfer mentrau cymunedol a prosiect bwyd.
  • Gweithio i gynnal gweithredoedd a fydd yn sicrhau bod statws ecolegol afonydd y fro (ac yn enwedig yr Afon Barlwyd) yn gwella.
  • Sefydlu Partneriaeth Strategol a fydd yn gweithio tuag at waredu Rhododendron Ponticum o Fro Ffestiniog.
  • Datblygu cynlluniau i ddechrau mynd ar afael ar rywogaethau ymledol eraill megis Llysiau’r Dial (Japanese Knotweed)
  • Datblygu prosiect i wella safleoedd pendant yn y dref ar gyfer bywyd gwyllt a hefyd ar gyfer pobl a creu cyfloedd i bobl cymryd rhan yn hyn.
  • Datblygu clybiau natur yn yr ysgolion.
  • Sefydlu Partneriaeth Gwastraff lleol.
  • Datblygu prosiectau a fydd yn mynd i’r afael a chryfhau yr economi fwyd yn lleol.
  • Blaenau Ffestiniog wedi ennill statws Tref Masnach Deg.
  • Sefydlu Partneriaeth Cludiant a fydd yn adnabod cyfleon ar gyfer hwyluso cludiant cynaliadwy.
  • Gweithio gyda Blaenau Ymlaen ac Antur Stiniog i adnabod cyfleon ar gyfer datblygu Twristiaeth ‘Gwyrdd’ yn y Blaenau ac i sicrhau fod unrhyw ddatblygiadau cyffredinol yn y maes yma yn cyfrannu tuag at gynaladwyedd tymor hir ein Bro.
  • Sicrhau fod y Cynllun Datblygu Lleol yn adlewyrchu ein cynlluniau.
  • Parhau i gydweithio a Blaenau Ymlaen a phartneriaid eraill i ddatblygu cynlluniau cynhwysfawr ar gyfer datblygiad y Tref a’r cyffiniau.
  • Cynnal Cylch Sgwennu Llafar Bro.
  • Parhau i rannu'r gwersi a ddysgwn yma gyda chymunedau eraill ar draws Cymru a’r byd.
  • Datblygu ffynonellau ariannu cynaliadwy i’r prosiect.

Our objectives for the next 5 years

  • Create a Green Town Charter, (in collaboration with the Town Council), that will form the basis for developing an Energy Descent Plan for the town.
  • Renovate six of the town’s main community buildings in a way which will substantially reduce our ecological footprint.
  • Establish a Community Energy Company which will develop renewable energy sources for the town.
  • Develop and implement a programme of Eco-teams
  • Develop and implement a traditional and new sustainable skills training programme.
  • Develop an allotment site with plots of land available for individuals and also for community initiatives.
  • Support action to ensure an improvement in the ecological status of rivers in the area (especially the Afon Barlwyd).
  • Establish a Strategic Partnership that will work towards the eradication of Rhododendron Ponticum from Bro Ffestiniog.
  • Develop plans to start addressing the problem of other invasive species, such as Japanese Knotweed.
  • Develop a project for improving specific sites in the town for both biodiversity and people and enable residents to take part in this.
  • Develop Nature Clubs in local schools.
  • Establish a Local Waste Partnership
  • Develop projects that will develop the local food economy.
  • Blaenau Ffestiniog awarded the status of a Fair Trade Town.
  • Establish a Transport Partnership which will identify opportunities for facilitating sustainable transport locally.
  • Work with Blaenau Ymlaen and Antur Stiniog to identify opportunities for developing ‘Green’ Tourism in Blaenau, and ensure that any general developments in this field contribute towards the long term sustainability of our area.
  • Ensure that the Local Development Plan (to be developed during 2009-2010) reflects our plans.
  • Continue to collaborate with Blaenau Ymlaen and other partnerships to develop comprehensive plans for the development of the Town and the area.
  • Develop sources of sustainable income for the project.
  • Continue to share lessons learned here with other communities across Wales and globally.

Ein llwyddiannau hyd yn hyn!

Blwyddyn 1:

  • 340 unigolyn wedi gwirfoddoli am ddiwrnod neu mwy i weithredu at wella ein hamgylchedd yn lleol neu ledaenu gwybodaeth am fyw yn gynaliadwy.
  • Bron i 3000 o unigolion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau yn gysylltiedig â Phrosiect Y Dref Werdd.
  • Dros 30 o fusnesau bach a 4 busnes mawr wedi cyd-weithio gyda’r Prosiect.
  • Dros 20 o fudiadau gwirfoddol lleol wedi cyd-weithio’n agos a’r prosiect.
  • Pob un o ysgolion y Fro yn cyd-weithio gyda’r prosiect.
  • 20 o swyddogion asiantaethau allanol sydd yn gweithio yn lleol yn cyd-weithio
  • Wedi sefydlu nifer o grwpiau gweithredu i gynllunio a cychwyn gwaith o fewn meysydd penodol.
  • Wedi ffurfio ein cynllun datblygu.
  • Wedi sicrhau arian i barhau'r prosiect.

Blwyddyn 2:

  • Cyngor Tref wedi arwyddo Siarter Werdd
  • Wedi sicrhau arian i gyflawni Astudiaeth Dichonoldeb ar 4 adeilad cymunedol
  • Wrthi yn Sefydlu Cwmni Ynni Cymunedol
  • Wedi sefydlu Cymdeithas Rhandiroedd ac ar fin sicrhau tir ar gyfer safle rhandiroedd.
  • Wedi sefydlu Partneriaeth Afon Barlwyd. Y Bartneriaeth wedi cyfrannu tuag at ymgynghoriad y Cyfarwyddeb Fframwaith Dwr, cwblhau astusiaeth cwmpas ar sut i wella'r afon, a threfnu nifer o ddigwyddiadau cymunedol yn gysylltiedig a'r afon.
  • Wedi sefydlu Partneriaeth Y Parc a'r Parc wedi ail agor.
  • Wedi cynnal 10 Diwrnod Gwirfoddoli i wella ardaloedd o amgylch y dref.
  • Wedi sefydlu Clwb Natur
  • Wedi Sefydlu grwp Masnach Deg a'r grwp yn gweithio tuag at ennill statws Masnach Deg i'r Dref.
  • Wedi sefydlu Cylch Sgwennu Llafar Bro
  • Wedi gwerthu dros 1000 o Fagiau'r Dref Werdd.

Rydym yn barod rwan i gychwyn gweithio ar gweddill ein hamcanion!

Our successes so far!

Year 1

  • 340 individuals volunteered for at least a day or more in order to take action to improve local environment or share information aboutliving sustaiably.
  • Approximately 3,000 individuals took part in activities associated with the Green Town Project.
  • Over 30 small businesses and four large businesses worked with the Project,
  • 20 local voluntary organisations worked with the project.
  • Every school in the area was involved
  • 20 officers from external agencies, working locally, co-operated in providing these activities.
  • A number of action groups set up to plan and take action on specific areas.
  • Formed our development plan.
  • Secured funding to make sure that the project could carry on.

Year 2:

  • Town Council signs Green Charter
  • Funding secured for Feasibility Studies on 4 community buildings
  • Community Energy Company in the process of being set up
  • Allotment Association set up and is about to secure land for allotments
  • Afon Barlwyd Partnership set up. Partnership has contributed to the Water Framework Directive Consultation, carried out a scoping study on how to improve the river, and organised a number of community events linked to the river.
  • Set up the Park Partnership. The Park has re-opened.
  • Organised 10 Volunteer Days.
  • Set up a Nature Club
  • Set up the Fair Trade group and group working hard towards achieveing Fair Trade status.
  • Set up the Llafar Bro Writing Circle.
  • Sold over a 1000 Green Town Bags.

We're ready now to begin tacking all of our other objectives!

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a IonaPrice@gwynedd.gov.uk neu 01766 832213. Croeso i unrhywun o ardal Bro Ffestiniog cymryd rhan yn y prosiect mewn unrhyw ffordd a ddymunant.

For more information contact IonaPrice@gwynedd.gov.uk or 01766 832214. Anyone from the Bro Ffestiniog area is welcome to take part in the project in any way they would like to.